|
Article on other languages:
|
Disco / Discothèque
Hanes DiscoFe agorwyd y discothèque cyntaf yn 1941. La Discothèque, Rue de la Huchette, Paris. O amgylch 1950-1951 fe agorwyd llawer o glybiau discothèque ym Mharis, hynny yw; clybiau oedd yn chwarae recordiau yn hytrach na seindorf ddawns. Fe agorwyd y disco cyntaf yng Nghymru yn 1964; y Cardiff Discothèque Club, Charles St. Caerdydd. Roedd llawer neuadd ddawns yn chwarae recordiau neu yn cynnal "disco", ond hwn oedd y clwb discothèque cyntaf yng Nghymru. Roeddyn nhw'n chwarae cerddoriath fel Soul, Ska a R&B. Yn 1965 daeth e'n ffasiynol i ddawnsio'r Go-go. Roedd dawns y Go-go yn addas iawn i'r disco gan ei fod yn rhoi cyfle i'r dawnswyr rhodresa ac arddangos eu hunain. Doedd dim recordiau wedi wneud yn arbennig i chwarae mewn disco tan 1973. Roedd recordiau addas yn bodoli, fel Shaft (1971) gan Isaac Hayes. Fe fydd rhai yn dweud mae Soul Makossa (1972) gan Manu Dibango oedd y record ddisco cyntaf. Mae'n debyg mae'r record ddisco cyntaf i ddod yn boblogaidd oedd Rock Your Baby (1974) gan George McCrae. Oes y Disco1975 oedd y flwyddyn pan ddaeth Disco yn boblogaidd gyda recordiau fel The Hustle gan Van McCoy, Love to Love You Baby gan Donna Summer a Never Can Say Goodbye gan Gloria Gaynor. Oes y Disco oedd 1977 - 1979. Gafodd hwn wthiad bach yn 1977 gan y ffilm "Saturday Night Fever" (prif actor: John Traviolta) ac yn 1979 gan "The Bitch" (prif actores: Joan Collins). Datblygiadau diweddarachYn yr 80au fe ddatblygodd House a Techno o gerddoriaeth Disco. Cysylltiadau mewnolArticle keywords: disco ball, panic at the disco lyric, school disco, disco inferno, disco costume, 2 disco pure vol, disco music, disco light, pure disco, |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.