Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed (Ffrangeg: Fédération internationale de Football association, FIFA) yw'r corff sy'n rheoli pêl-droed ar lefel ryngwladol dros y byd cyfan. Fe'i ffurfiwyd ym Mharis yn 1904. FIFA sy'n gyfrifol am redeg Cwpan y Byd.