Mae Nova Scotia (Gaeleg yr Alban: Alba Nuadh; FrangegNouvelle-Écosse; yn llythrennol Alban Newydd yn Lladin) yn dalaith yng Nghanada a leolir ar arfordir de-ddwyreiniol y wlad. Hi yw'r dalaith fwyaf poblog o daleithiau'r Arfordir (Saesneg: Maritime provinces), ac mae ei phrifddinas, Halifax, yn ganolbwynt economaidd a diwylliannol i'r rhanbarth. Nova Scotia yw'r ail-leiaf o daleithiau Canada, gydag arwynebedd o 55,284 km², a gyda phoblogaeth o 936,988 hi yw'r bedwaredd-leiaf-poblog o daleithiau'r wlad.