Unol Daleithiau America

Article on other languages:

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
United States of America
Unol Daleithiau America
Baner yr Unol Daleithiau Sêl Fawr yr Unol Daleithiau
Baner Sêl Fawr
Arwyddair: E Pluribus Unum (traddodiadol)
In God We Trust (swyddogol, 1956–presennol)
Anthem: The Star-Spangled Banner
Lleoliad yr Unol Daleithiau
Prifddinas Washington, D.C.
Dinas fwyaf Dinas Efrog Newydd
Iaith / Ieithoedd swyddogol Dim ar lefel ffederal;
Saesneg
Llywodraeth Gweriniaeth Ffederal
- Arlywydd George W. Bush
- Is-arlywydd Dick Cheney
Annibyniaeth
- Datganwyd
- Adnabwyd
O Brydain Fawr
4 Gorffennaf 1776
3 Medi, 1783
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
9,631,420 km² (3ydd1)
4.87
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
299,102,661 (3ydd)
281,421,906
31/km² (172ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$13.049 triliwn (1af)
$43,555 (3ydd)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.944 (10fed) – 
Arian cyfred Doler yr Unol Daleithiau (USD)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-5 i -10)
(UTC-4 i -10)
Côd ISO y wlad .us (hefyd .gov .edu .mil .um)
Côd ffôn +1
1 Dadlir safle arwynebedd gyda China ac weithiau rhoddir ei safle yn 3ydd neu'n 4ydd.

Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America neu'r Unol Daleithiau. Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb.

Taflen Cynnwys

Daearyddiaeth


Hanes

Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd Prydeinig hyd yr 1700au cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil Gwrthryfel America (1776-1783).

Bryd hynny, roedd Florida a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin (Texas, California, Arizona a.y.y.b.) yn perthyn i Sbaen; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o Afon Mississippi hyd at ffin Canada yn perthyn i Ffrainc, ac roedd Alaska yn perthyn i Rwsia. Yn 1803 prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri (Pryniant Louisiana) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn 1836 cafodd Texas annibyniaeth oddiwrth México ac ar ôl naw mlynedd fel Gweriniaeth Texas ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a México, roddodd Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo (1848) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau New Mexico, Arizona, California, Colorado, Utah a Nevada, i'r Unol Daleithiau.

Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861 - 1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.

Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Yn 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomatox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.

Yn 1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.

Taleithiau

Alabama Alaska Arizona Arkansas California Colorado Connecticut Delaware Fflorida Georgia Hawaii Idaho Illinois Indiana Iowa Kansas Kentucky Louisiana Maine Maryland Massachusetts Michigan Minnesota Mississippi Missouri Montana Nebraska Nevada New Hampshire New Jersey New Mexico Efrog Newydd Gogledd Carolina Gogledd Dakota Ohio Oklahoma Oregon Pennsylvania Rhode Island De Carolina De Dakota Tennessee Texas Utah Vermont Virginia Washington Gorllewin Virginia Wisconsin Wyoming Delaware Maryland New Hampshire New Jersey Massachusetts Connecticut Gorllewin Virginia Vermont Rhode Island

Ynglŷn â'r ddelwedd hon


Dinasoedd

Dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau
Rhif Prif ddinas Talaith Pobl. Rhif yr ardal ddinesig Pobl, ardal ddinesig.[1] Rhanbarth[2]
Dinas Efrog Newydd
Dinas Efrog Newydd
Los Angeles
Los Angeles
1 Dinas Efrog Newydd Efrog Newydd 8,250,567 1 18,818,536 Gogledd-ddwyrain
2 Los Angeles California 3,849,378 2 12,950,129 Gorllewin
3 Chicago Illinois 2,833,321 3 9,505,748 Canol-orllewin
4 Houston Texas 2,169,248 6 5,539,949 De
5 Phoenix Arizona 1,512,986 13 4,039,182 Gorllewin
6 Philadelphia Pennsylvania 1,448,394 5 5,826,742 Gogledd-ddwyrain
7 San Antonio Texas 1,296,682 29 1,942,217 De
8 San Diego California 1,256,951 17 2,941,454 Gorllewin
9 Dallas Texas 1,232,940 4 6,003,967 De
10 San Jose California 929,936 30 1,787,123 Gorllewin
2006 U.S. Census Bureau estimates

Cysylltiadau allanol


 
Taleithiau'r Unol Daleithiau
Taleithiau Alabama | Alaska | Arizona | Arkansas | Califfornia | Colorado | Connecticut | De Carolina | De Dakota | Delaware | Efrog Newydd | Fflorida | Georgia | Gogledd Carolina | Gogledd Dakota | Gorllewin Virginia | Hawaii | Idaho | Illinois | Indiana | Iowa | Kansas | Kentucky | Louisiana | Maine | Maryland | Massachusetts | Michigan | Minnesota | Mississippi | Missouri | Montana | Nebraska | Nevada | New Hampshire | New Jersey | New Mexico | Ohio | Oklahoma | Oregon | Pennsylvania | Rhode Island | Tennessee | Texas | Utah | Vermont | Virginia | Washington | Wisconsin | Wyoming
Ardal ffederal Ardal Columbia

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.